Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 20(4) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
MEINWEOEDD DYNOL, CYMRU
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) (2013 dccc 5).
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y disgrifiad o bersonau na chânt weithredu fel person penodedig at ddibenion y Ddeddf.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 20(4) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL Cymru DRAFFT
2015 Rhif (Cy. )
MEINWEOEDD DYNOL, CYMRU
Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 8(10)(b) ac 20(1) a (2) o Ddeddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013([1]) ac ar ôl cynnal unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus sy’n briodol yn eu barn hwy yn unol ag adran 20(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 20(4) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trawsblannu Dynol (Cynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym am 00:01 ar 1 Rhagfyr 2015.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Personau na chânt weithredu o dan benodiad
2. At ddiben darparu cydsyniad datganedig o dan adran 3 o’r Ddeddf, ni chaiff person weithredu o dan benodiad os nad yw’r galluedd gan y person hwnnw i ddeall y cysyniad o gydsynio i weithgaredd trawsblannu.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad